Ffeithiau a ffigurau pwysig
Rhai ffeithiau pwysig am yr ESRC:
- Mae gennym 120 o staff, wedi eu lleoli yn Swindon
- Ein cyllideb ymchwil yn 2010/11 oedd £213 miliwn
- Rydym wedi ariannu dros 100 o fuddsoddiadau ymchwil
- Rydym yn buddsoddi £55 miliwn y flwyddyn mewn hyfforddiant
- Yn 2010/11, derbyniwyd 884 o geisiadau grant, a chafodd 141 ohonynt eu dyfarnu
- Cafodd naw ar hugain y cant o brosiectau ymchwil eu graddio i fod yn ‘rhagorol’ yn 2010/11
- Yn 2011, mynychodd tua 17,500 o bobl 131 o ddigwyddiadau Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol yr ESRC ledled y DU
- Roedd ein cyfraniad i Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth a gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth yn 2010/11 ychydig dros £4.8 miliwn
Am fwy o ffeithiau a ffigurau, ewch i’r dudalen Adroddiad Blynyddol, neu edrychwch ar ein cyfraddau llwyddiant ariannu.
