Ein hanes

Fe wnaethom ddechrau ym 1965 fel Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol, a sefydlwyd trwy Siarter Brenhinol. Roedd ein strwythur cynnar yn cynnwys pwyllgorau’r gwyddorau cymdeithasol oedd yn cynnwys 14 o ddisgyblaethau, yn amrywio o anthropoleg i ystadegau.

Ym 1982, argymhellodd adolygiad Rothschild fwy o ffocws ar ymchwil empiraidd ac ymchwil sy’n ymwneud â phryderon y cyhoedd. Ym 1983 cawsom yr enw Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Roedd ein strwythur newydd yn cynnwys pwyllgorau oedd yn mynd i’r afael â chwe maes: materion economaidd, addysg a datblygiad dynol, yr amgylchedd a chynllunio, llywodraeth a’r gyfraith, diwydiant a chyflogaeth, a materion cymdeithasol.

Daeth ansawdd a llwyddiant hyfforddiant ôl-radd yn fater pwysig yn ystod y 1980au. Ym 1989, fe wnaethom gyflwyno canllawiau hyfforddiant ôl-radd ffurfiol.

Yn ystod y 1990au, fe wnaethom ddatblygu ein blaenoriaethau thematig fel bod ymchwil yn canolbwyntio ar flaenoriaethau gwyddonol a chenedlaethol. Disodlwyd y rhain yn ddiweddarach a chafodd ein blaenoriaethau eu diffinio mewn adolygiad strategol cynhwysfawr a gynhaliwyd yn 2005. Cafodd ein blaenoriaethau strategol presennol eu cyflwyno yn 2011.

I weld cyfrif manwl o 40 mlynedd cyntaf yr ESRC, gweler SSRC ac ESRC: y deugain mlynedd cyntaf (PDF, 892Kb).

Siarter Brenhinol yr ESRC

Cawsom y Siarter Brenhinol ym 1965 fel Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol. Ers hynny, mae’r siarter wedi cael ei ddiwygio dair gwaith, ym 1973, ym 1983 pan wnaed Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol yn Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, ac yn olaf ym 1994.