Sut rydym yn gweithio

Nid ydym yn cael cyfarwyddyd gan gyfyngiadau gwleidyddol na masnachol tymor byr ac rydym yn gwrando’n ofalus ar bobl ar draws pob sector wrth sefydlu ein hagenda ymchwil. Mae ein pwyllgorau a’n rhwydweithiau yn gyfrifol am flaenoriaethau ymchwil, adnoddau, grantiau a hyfforddiant. Maent yn gweithio gyda’n Prif Weithredwr a’n cyfarwyddiaethau er mwyn sicrhau ein bod yn darparu ymchwil a hyfforddiant annibynnol, o’r ansawdd uchaf ym maes y gwyddorau cymdeithasol sydd fwyaf perthnasol i gymdeithas, a bod y canfyddiadau’n cyrraedd y gynulleidfa ehangaf posibl.

Ymchwil

Rydym wedi ymrwymo i gynorthwyo’r ymchwil gorau, gyda rhagoriaeth wyddonol yn faen prawf sylfaenol ar gyfer cyllid. Mae ein cyfleoedd ariannu i gyd yn gystadleuol iawn a dim ond y cynigion hynny y mae arbenigwyr yn y maes yn canfod eu bod o’r ansawdd wyddonol uchaf posibl sy’n cael cymorth.

Rydym yn cynorthwyo ymchwil mewn dwy brif ffordd:

Cyllid ymatebol: Mae hyn yn galluogi unigolion a thimau ymchwil i gyflwyno cynigion ymchwil mewn unrhyw faes o fewn cylch gorchwyl yr ESRC heb fod angen cyd-fynd â set benodol o flaenoriaethau.

Cyllid cyfarwyddeb: Mae hyn yn ein galluogi ni i gynorthwyo gwaith newydd o fewn ein blaenoriaethau ymchwil trwy wahodd cynigion yn erbyn briff ymchwil a maes testun penodol.

Hyfforddiant

Mae gennym rôl strategol allweddol yn hyrwyddo a chefnogi hyfforddiant aelodau o gymuned gwyddorau cymdeithasol y DU trwy gydol eu gyrfaoedd ymchwil. Rydym yn buddsoddi mewn cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad ymchwil o’r ansawdd uchaf er mwyn creu ymchwilwyr medrus sy’n gallu mynd i’r afael â’r heriau cymdeithasol ac economaidd mwyaf dybryd, a chael effaith ehangach ar gymdeithas.

Partneriaethau

Mae partneriaethau yn dod â chyfoeth o gyfleoedd i’r gwyddorau cymdeithasol, o ddatblygu ymchwilwyr sydd yn fedrus yn cyfnewid gwybodaeth i wneud i’n hymchwil gael yr effaith fwyaf posibl ar heriau mwyaf cymhleth cymdeithas. Mae datblygu partneriaethau strategol gydag academia, y sectorau cyhoeddus a phreifat, a chymdeithas sifil felly’n allweddol i gyflenwi ein Cynllun Strategol.

Seilwaith

Mae angen i ymchwilwyr allu cael gafael ar ddata o safon fyd-eang a dulliau ymchwil arloesol er mwyn cyflenwi ymchwil o’r ansawdd uchaf a chael yr effaith fwyaf posibl. Rydym yn parhau i arwain yn strategol wrth lywio’r gwaith o ymestyn seilwaith data’r DU a chefnogi datblygiadau methodolegol sydd ar flaen y gad.

Arweinyddiaeth ryngwladol

Mae’r ESRC yn arweinydd rhyngwladol o fewn y gwyddorau cymdeithasol.  Rydym yn meithrin cydweithredu rhyngwladol gydag ystod eang o bartneriaid rhyngwladol a, thrwy gynlluniau ar y cyd, rydym yn galluogi gwyddonwyr cymdeithasol y DU i gydweithredu ar faterion byd-eang heriol gyda’r ymchwilwyr rhyngwladol gorau o bedwar ban byd.