Beth yw’r gwyddorau cymdeithasol?
Ystyr ehangaf y gwyddorau cymdeithasol yw astudiaeth o gymdeithas a’r ffordd y mae pobl yn ymddwyn ac yn dylanwadu ar y byd o’n hamgylch.
Mae rhai gwyddonwyr cymdeithasol yn dadlau na all un diffiniad unigol gwmpasu ystod mor eang o ddisgyblaethau academaidd. Yn lle hynny, yn syml, maent yn diffinio’r gwyddorau cymdeithasol trwy restru’r pynciau y maent yn eu cynnwys.
Disgyblaethau’r gwyddorau cymdeithasol
Mae prif ddisgyblaethau’r gwyddorau cymdeithasol yn cynnwys:
- anthropoleg
- cyfathrebu
- troseddeg
- astudiaethau diwylliannol
- economeg
- daearyddiaeth ddynol
- ieithyddiaeth
- y gyfraith
- y gwyddorau gwleidyddol
- seicoleg
- cymdeithaseg
- astudiaethau datblygu
Mae bob un o’r gwyddorau cymdeithasol hyn yn defnyddio ystod o ddulliau o astudio cymdeithas, yn cynnwys arolygon, holiaduron, cyfweliadau ac ystadegau. Fel pob gwyddor, mae’r gwyddorau cymdeithasol yn esblygu trwy’r cydadwaith o syniadau a damcaniaethau academyddion a’r dystiolaeth sy’n eu cefnogi neu’n eu gwrthbrofi.
Y ffordd y mae’r gwyddorau cymdeithasol yn llunio ein bywydau
Mae gwyddonwyr cymdeithasol yn dylanwadu ar ein bywydau, fel arfer heb i ni fod yn ymwybodol eu bod yn gwneud hynny. Er enghraifft:
- mae rôl llywodraethau mewn cymdeithas sy’n gynyddol seiliedig ar y farchnad wedi cael eu pennu gan feddylwyr enwog fel John Maynard Keynes a Karl Popper
- economydd gafodd y syniad o gael Gwasanaeth Iechyd Gwladol
- mae talu biliynau o bunnau o fudd-dal y wladwriaeth i’r anghenus wedi cael ei ddylanwadu gan waith gwyddonwyr cymdeithasol.
Mae canfyddiadau ymchwil y gwyddorau cymdeithasol yn parhau i roi gwybodaeth werthfawr p’un a ydych yn rhiant, yn gynghorydd lleol, yn swyddog yr heddlu neu’n swyddog gweithredol mewn busnes.
Fideo: Beth yw’r gwyddorau cymdeithasol? rhan 1
Beth yw’r gwyddorau cymdeithasol, a pha effaith maent yn ei chael ar gymdeithas? Safbwyntiau’r cymunedau academaidd, gwleidyddol a’r cyfryngau.
Fideo: Beth yw’r gwyddorau cymdeithasol? rhan 2
Canfod mwy am ein hymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol
- Mae ein testunau ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol yn rhoi mwy o wybodaeth am ymchwil ym meysydd pwnc gwahanol y gwyddorau cymdeithasol
- Gallwch ganfod mwy am y ffordd y mae ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol yn llunio ein bywydau yn yr adran effaith a chanfyddiadau
- Gallwch ganfod mwy am y gwaith ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol yr ydym yn ei ariannu
- Tanysgrifiwch i gael ein Cylchgrawn Society Now neu ein cylchlythyr electronig, eNews
