Gweithio’n rhyngwladol

Rydym wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth o wyddorau cymdeithasol y DU yn rhyngwladol, a galluogi gwyddonwyr cymdeithasol y DU i gydweithredu â’r ymchwilwyr gorau ar draws y byd. Rydym yn darparu cyfleoedd i ymchwilio dramor, i groesawu cydweithredwyr tramor i’n sefydliad, neu gymryd rhan mewn rhwydweithiau ymchwil rhyngwladol.

Cyfleoedd ariannu rhyngwladol

Mae mwy o fanylion am gyfleoedd ariannu rhyngwladol yn ein hadran Cydweithredu (bydd y rhain hefyd yn cael eu hysbysebu o dan gyfleoedd ariannu).

Polisi a strategaeth ryngwladol

Mae gweithio’n rhyngwladol yn brif flaenoriaeth yn ein Cynllun Strategol.

Mae ein Rhwydwaith Rhyngwladol yn dod ag arbenigedd o Gyngor a Phwyllgorau ESRC ynghyd i ddarparu cymorth ar gyfer gweithgareddau a strategaeth ryngwladol.

Adnoddau ymchwil rhyngwladol

Mae adnoddau ymchwil yn creu’r sylfaen ar gyfer gwneud ymchwil.  Yn draddodiadol, roedd adnoddau ymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar ffiniau cenedlaethol, ond yn sgil globaleiddio a chyd-ddibyniaeth cynyddol, mae angen clir i rannu data, arbenigedd o ran dulliau ymchwil, ac i ddatblygu offer a thechnegau ar gyfer ymchwil lwyddiannus trawsgenedlaethol.

Rydym wedi bod yn datblygu nifer o fentrau sydd yn dod â gwyddonwyr cymdeithasol ynghyd o’r DU a thramor. Nod y mentrau hyn yw hyrwyddo cydweithredu rhyngwladol a datblygu seilwaith adnoddau ymchwil trwy rannu data a dadansoddi cydweithredol.

Canfod mwy am ein hadnoddau ymchwil.

Swyddfeydd tramor

Mae presenoldeb wedi bod gan y Cynghorau Ymchwil dramor ers agor Swyddfa Ymchwil y DU ym Mrwsel (UKRO) ym 1984. Ceir bellach hefyd Swyddfeydd RCUK dramor yn yr UD, Tsieina ac India.

Mwy o wybodaeth

Os hoffech fwy o wybodaeth am ein gwaith a’n cyfleoedd rhyngwladol, cysylltwch â ni: