Cynllun Iaith Gymraeg

Mae Cynghorau Ymchwil y DU (RCUK) wedi paratoi Cynllun Iaith Gymraeg drafft yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 ar y ffordd yr ydym ni, a saith Cyngor Ymchwil y DU, yn bwriadu cynnal ein busnes. O dan Adran 13 o’r Ddeddf, mae’n ddyletswydd ar RCUK i gyhoeddi’r Cynllun drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus "er mwyn cael barn y cyhoedd sy’n siarad Cymraeg ac eraill yr effeithir arnynt gan y cynllun".

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar 21 Chewefror a daw i ben ar 1 Mai. Dylid derbyn sylwadau ar y Cynllun drafft erbyn 1 Mai. Yn dilyn hyn, cwblheir y Cynllun a’i gyflwyno i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar gyfer cymeradwyaeth derfynol.